Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
10 Rhagfyr 2018
SL(5)287 – Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
Y gyfradd safonol o 1 Ebrill 2019 fydd £91.35 y dunnell, y gyfradd is fydd £2.90 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi fydd £137.00 y dunnell.
Rhiant-Ddeddf: Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
Fe’u gwnaed ar: 21 Tachwedd 2018
Fe’u gosodwyd ar: 26 Tachwedd 2018
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019
SL(5)290 – Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Addasiad Ynysoedd Scilly) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel bod Cyngor Ynysoedd Scilly yn cael ei drin fel awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar: 29 Tachwedd 2018
Fe’u gosodwyd ar: 03 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym ar: 04 Chwefror 2019